Ymateb i’r ymgynghoriad ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
 - y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi Darpariaeth Addysg Gymraeg

Cyflwyniad

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn ar y cyd rhwng y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg - y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi Darpariaeth Addysg Gymraeg

Mae’r Coleg Cymraeg yn arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru, ac yn cyflawni hyn drwy weithio mewn partneriaeth â phrifysgolion gan gynnwys yr Ysgolion sy’n darparu cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau er mwyn adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg cynhwysol o’r radd flaenaf.

Sefydlwyd y Coleg yn 2011 ac erbyn hyn mae darpariaeth helaeth yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog wedi ei ddatblygu ar draws pob prif bwnc a ddarperir ym mhrifysgolion Cymru. Yn 2018 derbyniodd y Coleg gyfrifoldeb am Addysg Bellach a Phrentisiaethau ac rydym wedi dechrau gweithredu cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu’r ddarpariaeth i ddysgwyr yn y sectorau hyn dros y blynyddoedd nesaf.

Mae gwaith y Coleg felly yn dibynnu’n helaeth iawn ar lwyddiant y sector addysg orfodol i gynnig arlwy addysg Gymraeg deniadol a hygyrch, a thrwy hynny ddatblygu sgiliau Cymraeg disgyblion fel eu bod yn gallu elwa’n llawn ar y cyfleoedd sydd iddynt barhau a’u hastudiaethau ôl-16 yn Gymraeg neu’n ddwyieithog. Yn ogystal, mae rôl y sector addysg orfodol i feithrin hyder, mwynhad a brwdfrydedd mewn perthynas â’r Gymraeg yn ddylanwadol ar agweddau dysgwyr o ran manteisio ar y cyfleoedd ôl-orfodol sydd ar gael iddynt.

Mae’r dilyniant hynny yn ei dro yn bwydo prosesau cynllunio a chyflenwi gweithluoedd y gwahanol sectorau addysg, maes arall sydd o ddiddordeb i’r Coleg, ac sydd, yn ei rhinwedd ei hun, yn un o feysydd ffocws y Cynlluniau Strategol.

Mae’n allweddol felly bod y Cynlluniau Strategol sirol yn cynllunio’n bwrpasol ar gyfer twf addysg Gymraeg a chefnogi’r twf hwnnw. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am chwarae ei ran yn y broses o gryfhau’r prosesau hyn er mwyn rhoi’r cyfle gorau o gwrdd â thargedau uchelgeisiol Cymraeg 2050 ac i ddarparu’r cyfleoedd gorau posib i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid.

1.       Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bedwaredd Senedd argymhellion yn ei adroddiad ar ‘Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg’. A yw’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi gwella ers hynny?

Mae’r  fframwaith ar gyfer Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi gwella yn amlwg ers adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac adroddiadau perthnasol eraill, ac yn arbennig felly yn sgil yr Adolygiad brys o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-20 a gyhoeddwyd yn 2017.

Yn benodol, mae symud oddi wrth dull ‘mesur y galw’ i flaengynllunio pwrpasol i gynyddu darpariaeth a symbylu twf wedi bod yn gam arwyddocaol. Felly hefyd, ymestyn cyfnod y cynlluniau i ysgogi ymagwedd fwy strategol, tymor-hir, y newidiadau pwysig i’r deilliannau, a’r targedau penodol a osodir yn genedlaethol.

Mae Cynlluniau Strategol (drafft) rhai o’r awdurdodau lleol yn dangos eu bod wedi dechrau ymateb i her y fframwaith deddfwriaethol diwygiedig, wedi gafael yn yr agenda mwy uchelgeisiol ac yn cynllunio’n effeithiol i weithredu ar ei sail. Mae nifer, fodd bynnag, nad ydynt wedi ymateb yn briodol, ac sy’n wan o ran eu dadansoddiad o’r sefyllfa bresennol (gan gynnwys y sail data a ddefnyddir i osod gwaelodlin), yn brin o ran uchelgais, ac wedi methu creu cynlluniau concrit gyda thargedau meintiol. Gwendid nifer ohonynt yw eu bod yn defnyddio’u Cynlluniau Strategol i addo gwneud y gwaith dadansoddi a chynllunio, yn hytrach na’u bod wedi gwneud y gwaith hwnnw i fwydo mewn i’r gwaith o lunio’r Cynllun Strategol. Rydym o’r farn bod canllawiau Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir yn hyn o beth. Mae cwestiynau’n codi felly ynghylch trefniadau atebolrwydd.

Er gwaetha’r cynnydd mewn rhai mannau a nodir uchod, mae’r Coleg o’r farn bod yna botensial clir am welliannau pellach, a hynny yng nghyd-destun Bil Addysg Gymraeg. Manylwn ar rheiny yng nghwestiwn 4 isod.

2.       I ba raddau y mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y canlyniadau a’r targedau a nodir yn Strategaeth Llywodraeth Cymraeg ar gyfer y Gymraeg – Cymraeg 2050?

Mae’r Cynlluniau Strategol yn un o’r elfennau cynllunio sy’n anhepgor ar gyfer ymgyrraedd at ganlyniadau a thargedau strategaeth Cymraeg 2050. Croesawn y ffaith fod amserlen y Cynlluniau Strategol erbyn hyn yn cyd-fynd, fwy neu lai, gyda rhaglenni gwaith 5-mlynedd Cymraeg 2050, a Chynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg (er ein bod o’r farn nad yw’r Cynllun hwnnw yn ddigon uchelgeisiol ar hyn o bryd).

Trwy’r system addysg a hyfforddiant y daw canran sylweddol iawn o’r twf angenrheidiol yn nifer y siaradwyr (Thema 1 Cymraeg 2050) – o’r blynyddoedd cynnar, i addysg statudol, addysg ôl-orfodol, a’r gweithlu addysg ei hun – a rheiny oll yn ganolog i ddeilliannau’r Cynlluniau Strategol. O ran y gweithlu addysg, tra bydd angen denu mwy o siaradwyr Cymraeg i’r proffesiynau perthnasol, bydd angen yn ogystal datblygu sgiliau iaith aelodau presennol a darpar-aelodau’r gweithlu; bydd hynny hefyd yn cyfrannu at gyrraedd y targedau o ran nifer yr oedolion sy’n dod yn siaradwyr Cymraeg.

Yn ogystal, bydd y system addysg, ar sail y Cynlluniau Strategol, yn ganolog i’r ymdrechion i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd (Thema 2 Cymraeg 2050), o ran gweithleoedd addysg, ac hefyd o ran sefydlu arferion ieithyddol ymhlith cyfoedion mewn cyd-destunau amrywiol tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Bydd creu mwy o siaradwyr Cymraeg trwy’r system addysg mewn amrywiol feysydd, gydag arbenigedd mewn ystod eang o feysydd, yn debygol o gefnogi’r gwaith o greu amodau ffafriol i dwf y Gymraeg trwy gryfhau seilwaith (Thema 3 Cymraeg 2050).

Unwaith eto, mae cyfle yma, trwy gryfhau fframwaith y Cynlluniau Strategol, i rymuso’u rôl o ran cyfrannu at ganlyniadau a thargedau Cymraeg 2050. Os yw’r Cynlluniau Strategol am chwarae’r rôl ganolog bwysig y mae ganddynt y gallu i wneud, mae angen i’r fframwaith deddfwriaethol ei hun fod mor rymus ac effeithiol â phosib. Nodwn eto bwysigrwydd trefniadau atebolrwydd digonol; os na fydd y Cynlluniau Strategol yn ddigon uchelgeisiol a phenodol, ac os na fyddant yn cynnwys targedau meintiol mesuradwy, neu os na fydd yr addewidion yn y Cynlluniau’n cael eu gwireddu, ni fyddant wedi chwarae rôl effeithiol yn y broses o gyfrannu at y canlyniadau a’r targedau yn strategaeth Cymraeg 2050, ac mi fydd cyfle enfawr wedi’i golli.

Manylwn ar ein hawgrymiadau dan gwestiwn 4 isod.

3.       Sut mae awdurdodau lleol yn ymateb i newidiadau i ganllawiau ar gategorïau ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac a ydynt yn bodloni uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ac ysgolion dwy ffrwd?

Nid oes gan y Coleg farn am sut mae awdurdodau lleol yn ymateb i’r canllawiau newydd ar gategorïau ysgolion yn ôl cyfrwng y ddarpariaeth. Mae’n bwysig nodi nad oedd y canllawiau wedi’u cyhoeddi pan oedd yr awdurdodau lleol yn llunio’r drafft o’r Cynlluniau Strategol i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, felly nid oedd modd iddynt eu crybwyll ond yn y ffordd fwyaf gyffredinol (os o gwbl), hynny yw, ymrwymo i wneud y gwaith categoreiddio pan fyddai’r canllawiau terfynol yn cael eu cyhoeddi. Hyderwn y bydd y gwaith categoreiddio hynny wedi digwydd erbyn fersiynau terfynol y Cynlluniau Strategol.

Wrth reswm, nid categoreiddio ysgolion yw nod terfynol y canllawiau, ond sicrhau bod ysgolion yn cael eu categoreiddio er mwyn annog cynnydd o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Ystyr cynnydd yn y cyd-destun hwn yw cynyddu canran y ddarpariaeth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, ar y naill law, a chynyddu canran y disgyblion sy’n dilyn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar y llall. Sefydlir egwyddor hollbwysig o ‘beidio â symud yn ôl’, sef na ddylai ysgolion gynnig llai o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg nag yn y gorffennol. O safbwynt y Coleg Cymraeg, mae hyn yn greiddiol o ran cynnal a chynyddu nifer y disgyblion sy’n barod i ddilyn cyrsiau addysg bellach, prentisiaethau neu gyrsiau addysg uwch yn y Gymraeg.

Mawr obeithiwn y bydd y canllawiau’n llwyddiannus o ran y nodau a’r amcanion uchod; bydd angen monitro hynny dros y cyfnod i ddod.

Naill ffordd neu’r llall, byddai fframwaith deddfwriaethol cryfach mewn perthynas â’r Cynlluniau Strategol yn gallu atgyfnerthu nodau ac amcanion y canllawiau categoreiddio ysgolion. Byddai gofyn am wybodaeth lawer iawn fwy manwl ynghylch canrannau darpariaeth cyfrwng Cymraeg fesul ysgol, a chynlluniau penodol a meintiol ar gyfer twf, law yn llaw â chynlluniau i hyrwyddo’r ddarpariaeth ac annog disgyblion i ymgymryd â hi, yn gallu bod yn rymus dros ben. Yn yr un modd, byddai gofyn am niferoedd disgyblion sy’n dilyn darpariaeth Gymraeg fesul ysgol, ac yn ddelfrydol, fesul pwnc/Maes Dysgu a Phrofiad, yn rhoi data hynod o werthfawr, ac yn darparu sail gadarn ar gyfer monitro cynnydd.

4.       Pa heriau a fydd yn codi o ran cynllunio a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cyn Bil Addysg Gymraeg arfaethedig?

Yng nghyd-destun y Cynlluniau Strategol, mae heriau yn amlygu eu hunain dan bennawd sawl un o’r Deilliannau.

·         Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall

Mae sicrhau dilyniant o un cyfnod addysg i’r llall yn hollbwysig i lwyddiant y Cynlluniau Strategol ac i Gymraeg 2050. Mae sicrhau’r dilyniant hwnnw, yn enwedig rhwng y sector cynradd ac uwchradd wedi bod yn heriol, ac mae’n briodol bod pwyslais ar hynny yn y Cynlluniau.

Gellid cymryd y cyfle, mewn Bil Addysg Gymraeg, i weithio tuag at sicrhau llwybrau cyfrwng Cymraeg di-dor o addysg a gofal plentyndod cynnar, drwy addysg statudol i addysg/hyfforddiant ôl-statudol. Rhan o’r gwaith hwn fydd sicrhau nad oes llithro yn ôl o lwybr ‘iaith gyntaf’ i lwybr ‘ail iaith’ o ran y Gymraeg fel pwnc wrth drosglwyddo rhwng cyfnodau, gan gynnwys sicrhau nad yw cymwysterau yn creu cymhelliad ar gyfer llithro o’r fath. Rhan arall o’r gwaith yw lleihau’r tebygolrwydd bod disgyblion yn newid o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i ddarpariaeth cyfrwng Saesneg ar gyfer pynciau penodol, yn aml oddi fewn i’r un sefydliad (e.e. Mathemateg a Gwyddoniaeth, mewn rhai ardaloedd), a allai gwneud parhad i’r camau nesaf yn Gymraeg yn fwy heriol/llai tebygol.

Mae Cymraeg 2050 yn nodi bod data’r cyfrifiad yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn cynyddu fesul grŵp oedran hyd at 15 oed, ac wedyn yn lleihau, yn gyffredinol, rhwng 16 a 25 oed. Dywed mai un o’i brif amcanion ‘yw sicrhau bod llai o bobl ifanc yn colli eu sgiliau Cymraeg wrth symud o addysg statudol i addysg bellach/uwch, a bod rhagor ohonynt yn cyrraedd canol eu hugeiniau wedi dal gafael ar yr iaith’ (Cymraeg 2050, tudalen 31).

Trwy roi’r pwyslais yn y Cynlluniau Strategol ar y cyfnodau statudol yn unig, rydym o’r farn bod cyfle pwysig wedi’i golli i ddatblygu a gwella cyfraddau dilyniant hollbwysig o’r cyfnod statudol i’r ôl-statudol, ac i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ffocws penodol ar y cam hwnnw yng ngyrfa myfyrwyr. Mae angen sicrhau bod cydweithio’n digwydd gyda’r Colegau i greu llwybrau dilyniant galwedigaethol 14-19.

Hoffem weld y Cynlluniau Strategol yn ymestyn eu pwyslais i gynnwys dilyniant rhwng addysg statudol ac addysg/hyfforddiant/gwaith ôl statudol. Gallai hynny gynnwys gofyniad i nodi data cyfredol a thargedau meintiol ar gyfer cynyddu cyfraddau dilyniant, a gofyniad i nodi’r trefniadau cydweithio perthnasol gydag amrywiaeth o bartneriaid.

·         Deilliant 4: Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg

Yn y Cynlluniau Strategol drafft, prin yw’r targedau a’r cynlluniau i gefnogi a datblygu’r Gymraeg fel pwnc. Mae angen sicrhau cynllunio pwrpasol a rhagweithiol i sicrhau bod unrhyw ddisgybl sy’n dymuno astudio’r pwnc at Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn cael y cyfle i wneud, a hynny’n hwylus. Ni ddylai niferoedd bach, na threfn ‘colofnau dewisiadau’ fod yn rhwystr. Yn ogystal, mae angen sicrhau y nodir sut y bwriedir mynd ati i greu a chynnal diddordeb disgyblion yn y pwnc, gan gynnwys cymryd mantais lawn o’r cyfleoedd mae’r Coleg Cymraeg a phartneriaid eraill yn eu cynnig fel rhan o gynllun cenedlaethol i hyrwyddo’r Gymraeg fel pwnc, dan arweiniad Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwendid hwn yn cael ei adlewyrchu yn ogystal yn yr ymdriniaeth o faint o ddisgyblion sy’n cyflawni cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn yr un modd â’r Gymraeg fel pwnc, mae angen sicrhau y nodir sut y bwriedir hyrwyddo a thanio diddordeb mewn amrediad o bynciau trwy’r Gymraeg, er enghraifft, trwy gydweithio â phartneriaid i gynyddu, ehangu a hwyluso cyfleoedd. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cefnogi manylebau ar bob lefel astudio o TGAU i Addysg Uwch, gyda deunyddiau hyrwyddo ac ystod o weithgareddau sy’n cyfoethogi’r profiad o astudio’r pwnc, i greu cymhelliant i astudio pwnc ac i barhau i wneud i’r camau nesaf.  

Awgrymwn y gallai fframwaith y Cynlluniau Strategol gael ei gryfhau i fod yn llawer mwy penodol a rhagnodol ynghylch y gofynion cynllunio, pennu targedau meintiol, adrodd a monitro o ran cymwysterau.

Byddai hynny’n seiliedig ar ofyniad i gynyddu, ehangu a hwyluso opsiynau i ddysgwyr, gan gynnwys trwy gydweithio â phartneriaid, a defnyddio strategaethau hyrwyddo effeithiol. Mi fyddai angen gwneud y cysylltiad gyda’r gofyniad yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru i symud dysgwyr ymlaen ar hyd y continwwm ieithyddol, dros amser, ac i ysgolion yn ogystal symud ar hyd y continwwm ieithyddol trwy gynyddu cyfran y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â chyfran y dysgwyr sy’n dilyn y ddarpariaeth.

Pan ddaw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i fodolaeth yn 2023, hoffem weld gofyniad i gynllunio ac adrodd yn erbyn deilliant cyfatebol addas yn yr holl sectorau perthnasol, gan gynnwys sicrwydd bod data addas ar gael i wneud hynny’n bosib.

·         Deilliant 7: Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg yn rhoi cryn bwys ar y Cynlluniau Strategol fel rhan o’r prosesau ar gyfer cynyddu niferoedd y staff addysgu. Noda ofyniad i awdurdodau lleol ‘Cynllunio'r gweithlu cyfrwng Cymraeg fel rhan o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg’ (tudalen 41). Ymhellach, cyfeiria at yr angen i ‘ddadansoddi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol a gweithio gyda nhw er mwyn gwella dadansoddi data ar lefel leol’.

O ran y cyntaf o’r rhain, credwn ei fod yn bwysig cydnabod yn glir bod cynllunio’r gweithlu addysg, i raddau helaeth, tu hwnt i rôl a chyfrifoldebau’r awdurdodau lleol, a bod yn rhaid i hyn ddigwydd ar lefel genedlaethol, trwy sefydliadau cenedlaethol.

Mae’r ail, serch hynny, yn sicr yn gyfrifoldeb pwysig ar awdurdodau lleol. Mae’n gwbl briodol a realistig i osod y disgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn darparu data, gwybodaeth, dadansoddiad a rhagamcanion i fwydo system o gynllunio cenedlaethol.

Y broblem y gwelwn ni o ran cyflawni’r rôl bwysig hon, yw nad yw fframwaith deddfwriaethol y Cynlluniau Strategol yn ddigon manwl a rhagnodol i sicrhau’r mathau o ddata, gwybodaeth, dadansoddiad a rhagamcanion fyddai’n angenrheidiol er mwyn cynllunio’n effeithiol ar lefel genedlaethol. Mae’r angen i osgoi dyblygu data sydd eisoes ar gael mewn mannau eraill yn ffactor i’w ystyried hefyd.

Y duedd yn nifer o’r Cynlluniau Strategol newydd yw nodi pwysigrwydd sicrhau gweithlu addas ar gyfer yr ysgolion presennol. Hyd yn oed yn y Cynlluniau Strategol hynny sy’n nodi cynlluniau pendant ar gyfer agor ysgolion newydd, neu symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith, digon tebyg yw’r duedd. Nid oes cyfeiriadau at drosiant staff a chyfraddau ymadawiadau. Mae’r ddogfen atodol i Gynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg sy’n crynhoi’r elfennau perthnasol a’r Cynlluniau Strategol yn dangos pa mor anghyson ac arwynebol yw’r rhannau hyn o’r Cynlluniau Strategol, a pha mor anaddas ydynt fel sail ar gyfer cynllunio yn eu ffurf bresennol.

Er mwyn i’r Cynlluniau Strategol fedru gwneud y cyfraniad mwyaf adeiladol at brosesau cynllunio cenedlaethol, rhaid sicrhau cysondeb o ran cynnwys a methodoleg fesul awdurdod, felly rhaid bod llawer yn fwy manwl a rhagnodol o ran yr hyn a ddisgwylir. Byddai’n fanteisiol petasai hyn yn cwmpasu’r gweithluoedd addysg cyn-orfodol (Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar), gorfodol, ac arbenigol (e.e. ADY), ac is-gategorïau oddi fewn i bob un ohonynt. Os yw ysgolion ac awdurdodau lleol yn darganfod bod prinder staff sy’n gallu gweithio yn y Gymraeg i ddarparu cyfleoedd cydweithio gyda’r sectorau addysg bellach a phrentisiaethau, byddai’n fanteisiol bod hynny’n cael ei gofnodi yn y Cynlluniau Strategol yn ogystal.

Er nad yw Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg yn ddigon uchelgeisiol na phellgyrhaeddol, yn ddi-os mae’n cynrychioli cam pwysig ymlaen. Gan adeiladu ar y Cynllun, mae’r Coleg o’r farn bod modd mynd ymhellach eto i gryfhau prosesau cynllunio’r gweithlu addysg, ac yn arbennig felly'r gweithlu addysg Cymraeg. Mae’r dadansoddiad data sy’n cyd-fynd â’r Cynllun yn rhoi’r cyfle i adnabod yr anghenion o ran faint o athrawon sydd angen eu hyfforddi bob blwyddyn, a’r bwlch brawychus rhwng y niferoedd hynny a’r rhai sy’n cael eu hyfforddi’n flynyddol: mae angen symud o oddeutu 250 o hyfforddeion y flwyddyn i bron i 600. Bydd gwneud hynny’n gofyn am weithredu radical a chynllunio o’r newydd, yn hytrach nag ymgeisio i wneud yr hyn sydd wedi bod yn cael ei wneud ers blynyddoedd yn fwy effeithiol ac yn fwy cydlynus.

Yn y cyd-destun hwnnw, mae’r Coleg o’r farn bod potensial gan Fil Addysg Gymraeg i symud yr agenda ymlaen ymhellach, gyda phwyslais ar ddyraniad cyfrifoldebau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol clir a strategol, a fframwaith rhagnodol, manwl. Gallai gwmpasu hyfforddiant cychwynnol a dysgu proffesiynol/yn y gweithle, yn ogystal â sut i fesur sgiliau ieithyddol. Byddai’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn barod i dderbyn cyfrifoldebau arweiniol am agweddau o’r gwaith hwn.

Tu hwnt i fframwaith y Cynlluniau Strategol, mae nifer o heriau yn amlygu eu hunain o ran cynllunio a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

·         Her, craffu ac atebolrwydd

Bydd angen bod yn glir beth yn union yw statws gwahanol ymrwymiadau yng nghyd-destun y Cynlluniau Strategol, pwy yn union sy’n craffu ar weithredu yn erbyn yr ymrwymiadau, a pha fecanweithiau atebolrwydd sydd ar gael i sicrhau gweithredu rhesymol. Rhaid sicrhau yn ogystal, bod y data angenrheidiol ar gael yn hwylus, a phwy sy’n casglu ac adrodd ar y data. Rhaid i hyn oll fod yn rhan ganolog ac echblyg o fframwaith y Cynlluniau Strategol.

·         Cwricwlwm i Gymru, Camau Cynnydd (continwwm i ddysgwyr), Continwwm ysgolion/Categorïau yn ôl cyfrwng darpariaeth

Mae dirfawr angen arweiniad cenedlaethol cliriach, manylach a chadarnach ynghylch yr elfennau uchod yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru, a gwaith i sefydlu’r cyd-gysyllted rhyngddynt.

O sicrhau dealltwriaeth gyson o’r rhain ledled y system addysg, a chefnogaeth briodol i weithredu, yn ogystal ag unrhyw ysgogiad a chymhellion oddi fewn i’r system, byddai modd manteisio ar yr holl elfennau hyn i symud y system yn ei flaen o safbwynt addysg cyfrwng Cymraeg.

·         Cymwysterau

Yng nghyd-destun diwygio ‘Cymwys ar gyfer y Dyfodol’ bydd angen parhau i gydweithio gyda Chymwysterau Cymru i sicrhau bod amrediad priodol o gymwysterau, gan gynnwys mewn meysydd galwedigaethol (14-16 oed, ac 16+), ar gael a hynny ar y lefelau priodol.

Bydd angen cadw golwg ar ddatblygiadau mewn perthynas â’r Gymraeg fel pwnc yn ogystal. Golyga hynny sicrhau cymwysterau priodol yn y cam cyntaf o ddiwygio, a gweithrediad priodol o’r cymwysterau hynny, gan gynnwys mecanweithiau i osgoi llithro am yn ôl a newid o lwybr ‘iaith gyntaf’ i lwybr ‘ail iaith’ waeth beth yw categori ieithyddol yr ysgol. Gall y Cynlluniau Strategol fod yn allweddol yn hyn o beth o gryfhau’r fframwaith trwy Fil Addysg Gymraeg.

Cam pellach yn y broses fydd symud tuag at un cymhwyster i bawb, dros amser – sy’n gysylltiedig gyda’r angen i wneud cynnydd o ran y continwwm iaith i ddysgwyr (Camau Cynnydd y Cwricwlwm) ac i symud ysgolion ar hyd y continwwm mewn perthynas â’r categorïau.

·         Addysg Gymraeg i bawb

Gall Bil Addysg Gymraeg gynnig cyfle pwysig i ddatgan bod gan bob dysgwyr yng Nghymru gyfle i gael mynediad at addysg Gymraeg, a hynny, yn gynyddol, ar bob lefel addysgol, ac o fewn cyrraedd hwylus.

·         Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

Mae gwelliannau diweddar a gyflwynwyd i’r Bil yn gosod cyfrifoldeb ar y Comisiwn newydd mewn perthynas â’r Gymraeg.

Bydd angen sicrhau bod y Comisiwn yn adlewyrchu’r nodau a osodwyd ynghylch cyfraddau dilyniant drwy’r Cynlluniau Strategol, gan gynnwys mewn partneriaeth gydag ysgolion.

Bydd cyfrifoldeb gan y Comisiwn i ymgynghori a chydweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y maes hwn.

 

Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

24 Mehefin 2022